Mapio’r Ymateb Cymunedol i COVID-19 yng Nghymru

Defnyddio data agored a dadansoddi ôl troed digidol i nodi’r cymunedau sydd angen cymorth fwyaf

Ynglŷn â’r prosiect » Dechrau arni »

Ynglŷn â’r prosiect

Nodi bod yn agored i niwed

Ers i’r pandemig ddechrau, mae cymunedau wedi bod yn symud i helpu ei gilydd; o siopa i gymdogion oedrannus, i gynnig wyneb cyfeillgar neu gymorth arall. Mae’r map hwn yn rhan o ymdrech i ddeall yn well pa gymunedau sydd â’r cydlyniant a’r trefniadau gorau.

Amlygu angen a chymorth

Gall deall pa gymunedau sydd mewn perygl yn ystod y pandemig hwn helpu asiantaethau’r llywodraeth a sefydliadau’r trydydd sector i ystyried pa ardaloedd sydd angen y cymorth mwyaf. Gall cymorth cymunedol gynnig factor amddiffynnol yn erbyn digwyddiadau niweidiol. Mae rhai ardaloedd mewn mwy o berygl nag eraill ac mae’r map hwn yn amlygu’r ardaloedd lle mae anghydbwysedd rhwng cymorth ac angen sy’n awgrymu y gallent gael budd o gymorth ychwanegol.

Tîm y prosiect

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Dynamic Genetics lab, rhan o Uned Epidemioleg Cyfunol MRC ym Mhrifysgol Bryste.

Prifysgol Bryste

Dr Oliver Davis
Athro Cyswllt a Chymrawd Turing
Dr Valerio Maggio
Uwch Ymchwilydd Cyswllt mewn Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial
Dr Alastair Tanner
Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil
Nina Di Cara
Ymchwilydd Doethuriaeth MRC
Chris Moreno-Stokoe
Ymchwilydd Doethuriaeth ESRC
Benjamin Woolf
Ymchwilydd Doethuriaeth ESRC

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Alisha Davies
Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso
Dr Jiao Song
Ystadegydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
Elysha Rhys-Sambrook
Swyddog Cymorth Prosiect
Lucia Homolova
Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
Special thanks to the Mapbox Community team for subsidised access to the Mapbox application programming interface